Bonnies

Dyma Bonnies, syniad Bec - un o wynebau cyfeillgar o dîm Bab Haus, a nawr perchennog balch i wasanaeth ei menter brechdanau ei hun yn Ffos Caerffili. Ar ôl pum mlynedd yn perffeithio blas a gwasanaeth, mae Bec wedi dod a’i hangerdd at frechdanau heb eu ail i fyw gyda Bonnies, gan wasanaethu creadigaethau hynod flasus sy’n mynd tu hwnt i’ch cinio arferol.
Mae pob brechdan yn Bonnies yn cael ei wneud â chariad, yn dechrau gyda’i homemade focaccia a’i sawsus unigryw. Mae ei gweledigaeth i gyd am gynnwys cynhwysion o’r ansawdd uchaf, gan gyrchu’n lleol ble bynnag fo’n bosib, a chreu blasau beiddgar, boddhaus sy’n eich denu yn ôl tro ar ôl tro. Ffefryn y cwsmeriaid ar hyn o bryd? Ei Chyw Iâr Caesar adnabyddus – darn annatod o’r fwydlen am reswm da!
Os ydych yn gonnoisseur brechdan neu dim ond yn llwglyd am rywbeth blasus, Bonnies yw eich lle newydd yn Ffos. Mae Bec o hyd yn breuddwydio am gyfuniadau llenwadau a blasau i gadw’r fwydlen yn ffres a chyffrous. Dewch lawr, cymerwch frechdan, a blaswch y gwahaniaeth yn Bonnies – ble mae bob brathiad yn gaddo profiad.

HEFYD YN Y