Ffos Caerfilli
Darganfyddwch galon marchnad fywiog newydd Caerffili, ychydig gamau o Gastell enwog Caerffili. Mae Ffos Caerffili yn fwy na marchnad – mae’n ganolfan gymunedol fywiog lle mae diwylliant lleol yn ffynnu. Wedi’i adeiladu o gynwysyddion llongau wedi’u hailddefnyddio, mae’r lleoliad prysur hwn yn gartref i dros 20 o fasnachwyr annibynnol, yn cynnig popeth o fwyd stryd i nwyddau crefftus. P’un a ydych chi’n mwynhau’r bwydydd diweddaraf, yn archwilio manwerthu creadigol, neu’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau cyffrous, mae Ffos Caerffili yn addo profiad unigryw. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o ddyfodol cyffrous Caerffili!